Poblogrwydd syrffio yn 'tyfu bob blwyddyn' ym Mhen Llŷn

Gyda syrffio'n rhan o'r Gemau Olympaidd eleni mae un o glybiau syrffio Cymru'n dweud eu bod nhw'n gobeithio y bydd hynny'n arwain at ragor yn mentro i'r dŵr.

Dros gyfnod o 10 mlynedd mae Clwb Syrffio Pen Llŷn yn dweud eu bod nhw wedi gweld twf aruthrol yn nifer y bobl leol sydd am fanteisio ar draethau a thonnau Cymru.

Yno mae dros 50 o blant a phobl ifanc yn dod ynghyd bob wythnos i ddysgu sut i syrffio'n ddiogel ar draeth Porth Neigwl.