Protest ger tŷ'r Prif Weinidog yn 'warthus'
Dylid adolygu diogelwch y Prif Weinidog, Mark Drakeford yn dilyn protest y tu allan i'w gartref, yn ôl arbenigwr.
Ddydd Sadwrn fe wnaeth grŵp o bobl dargedu cartref Mr Drakeford yng Nghaerdydd wedi protest ehangach yng nghanol y ddinas yn erbyn cyfyngiadau Covid-19.
Mae cyn-bennaeth diogelwch y Teulu Brenhinol wedi dweud bod y digwyddiad yn "warthus".
Dywedodd Heddlu De Cymru na fyddai'n gwneud unrhyw sylwadau ar faterion diogelwch.