Eluned Morgan: Newid rheolau hunan-ynysu'n 'briodol'
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru nos Iau na fydd angen i oedolion yng Nghymru sydd wedi eu brechu'n llawn rhag Covid-19 hunan-ynysu o 7 Awst ymlaen os fuon nhw mewn cysylltiad agos gydag achosion positif.
Bydd y newid yn effeithio ar tua dwy filiwn o oedolion sydd wedi cael dau ddos o'r brechlyn.
Ni fydd yn rhaid i bobl o dan 18 oed hunan-ynysu chwaith os ydyn nhw wedi dod i gysylltiad agos ag achos positif.
Ond mae Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan yn gwadu awgrym bod Llywodraeth Cymru'n gweithredu'n fyrbwyll mewn unrhyw ffordd trwy gyflwyno'r fath newid cyn gwledydd eraill y DU.
Cafodd ei holi am y sefyllfa ddiweddaraf ar raglen Dros Frecwast.