Creu tîm newydd i gyfuno gwasanaethau maethu

Wrth i gynghorau Cymru chwilio am dros 300 o deuluoedd maeth bob blwyddyn, mae tîm newydd wedi'i greu sy'n cyfuno holl wasanaethau maethu yr awdurdodau lleol.

Aeth gohebydd BBC Cymru Elen Wyn i gyfarfod un teulu o Lanuwchllyn sy'n rhan o'r cynllun.

Mae Angharad a Llŷr Clwyd wedi maethu 12 o blant dros gyfnod o chwe mlynedd - rhai am gyfnodau ysbaid ac eraill am gyfnodau hirach.