'Bydd hi'n drist iawn os gollwn ni rai o'r corau 'ma'

Mae gofid am ddyfodol canu corawl yng Nghymru yn dilyn y pandemig, gyda'r mwyafrif o'r corau eto i ailymgynnull.

Fe ddywedodd Cadeirydd Pwyllgor Cerdd Eisteddfod Ceredigion bod pryder am ddylanwad hynny ar gystadlu'r flwyddyn nesaf.

Mae'r cyfyngiadau presennol yn caniatáu i'r corau ailddechrau os ydynt yn gwisgo masgiau ac yn dilyn rheolau ymbellhau cymdeithasol.

Goblygiadau hynny yw bod nifer wedi penderfynu oedi eu hymarferion am beth amser eto.