''Da ni 'di tyfu fyny hefo'r stigma 'ma o'r Rhyl'
Mae tref glan môr Y Rhyl yn un o'r rhai mwyaf treisgar a difreintiedig yng Nghymru a Lloegr, yn ôl ymchwil gan y BBC.
Cyn y cyfnod clo cyntaf fe gododd nifer yr achosion o drais a throseddau rhyw yn y dref bedair blynedd o'r bron.
Ond yn ystod y cyfnodau clo diweddaraf, roedd nifer yr achosion o droseddu yn is ar draws Prydain a dyna hefyd y patrwm yn Y Rhyl ac mae'r dref yn ceisio newid.
Yn ôl dwy sydd wedi byw yn y dref trwy eu bywydau, Georgia ac Abbie, mae 'na "stigma" am Y Rhyl, ond eu bod mewn sioc o glywed canfyddiadau'r ymchwil.