'Mae'r gymuned, mae'r iaith... mae'r rheiny'n mynd'

Mae cymunedau gwledig yn cael eu dinistrio wrth i gwmnïau mawrion o Loegr brynu ffermydd er mwyn plannu coed - dyna rybudd ymgynghorydd amaethyddol.

Mae 'na alwad ar i Lywodraeth Cymru ail-ystyried eu strategaeth uchelgeisiol ar gyfer plannu coed er lles yr amgylchedd, yn sgil pryderon fod cwmnïau mawrion yn elwa ar draul trigolion cefn gwlad.

Mae cwmni sydd wedi ei leoli yn adeilad y Shard yn Llundain wedi cadarnhau wrth BBC Cymru eu bod wedi prynu pedair fferm yn ardal Cwrt Y Cadno yn Nyffryn Cothi, Sir Gâr yn ddiweddar.

Dywedodd y cwmni y byddai'n creu coedwigoedd newydd fel rhan o'r frwydr yn erbyn newid hinsawdd.

Dywedodd y llywodraeth bod coedwigoedd newydd yn creu cyfleoedd i gymunedau, a'i bod yn "annhebygol" y bydd buddsoddwyr yn ymgeisio am y grantiau sydd ar gael.