Y Gweinidog Iechyd yn trafod y camau nesaf i Gymru

Y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan yn esbonio'r camau nesaf ar gyfer amddiffyn poblogaeth Cymru rhag y coronafeirws wrth i'r wlad symud i lefel rhybudd sero.

Dywedodd Ms Morgan ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru fore Gwener bod y nifer o bobl sydd yn dal y feirws bellach yn lleihau a bod hyn yn "argoeli'n dda i ni fedru codi'r cyfyngiadau".

Ond pwysleisiodd na fydd ddydd Sadwrn yn "ddiwrnod o ryddid" gan ddweud bod yn "rhaid i bobl gymryd y feirws yma o ddifri' o hyd".

Dywedodd y bydd y llywodraeth yn "wyliadwrus" a bod ganddyn nhw'r hawl i gau busnesau i lawr unwaith eto os na fydd pobl yn ymddwyn yn briodol.

Ychwanegodd bod paratoadau mewn lle ar gyfer cynnig y trydydd dos o'r brechlyn o fis Medi ymlaen - yr un amser â'r brechlyn ffliw.