'Pam bod hyn wedi digwydd? Bai pwy yw e?'

Mae dyn o Gwmffrwd ger Caerfyrddin wedi bod yn sôn am ei rwystredigaeth am nad yw ei wraig, sydd â dementia, yn medru dychwelyd i'w cartref oherwydd diffyg gofalwyr.

Aeth June Griffiths, 79, i Ysbyty Glangwili naw wythnos yn ôl am driniaeth ar gyfer problem feddygol, ond er ei bod bellach wedi gwella, mae ei gŵr Meirion, 81, wedi cael gwybod nad yw hi'n bosib iddi ddod adref oherwydd prinder gofalwyr.

Yn eu hadroddiad blynyddol, mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn dweud mai recriwtio a chadw staff ym maes gofal cymdeithas yw'r "pryder mwyaf", ac mae Age Cymru hefyd wedi dweud eu bod yn poeni am y diffyg staff gofal.

Doedd Cyngor Sir Caerfyrddin ddim yn fodlon ymateb i achosion unigol, ond mae'r awdurdod yn cyfaddef fod "Sir Gaerfyrddin, ynghyd ag ardaloedd eraill yng Nghymru yn wynebu prinder gofalwyr cartref a phreswyl, ac mae'r sefyllfa wedi gwaethygu yn sgil y pandemig".