'Ydw i dal am fod 'ma 'Dolig, beth yw'r worst case?'

Mae hyfforddwr rygbi sydd wedi treulio bron 18 mis yn brwydro am ei fywyd yn erbyn canser yn annog pobl ifanc i fod yn gefn i'w ffrindiau mewn sefyllfa debyg.

Ar ôl cael gwybod fis Mawrth y llynedd ei fod yn diodde' gyda Hodgkin's Lymphoma - math o ganser gwaed sy'n gyffredin ymysg pobl rhwng 15 a 34 - o'dd o am rannu'i newyddion drwg gyda thîm rygbi mae'n ei hyfforddi.

Meddai Cobi wrth Cymru Fyw: "Oedd hi'n amser cyfnod clo Covid ac o'n i mewn cyfarfod Zoom gyda nhw.

"Rwy'n cofio tua 20 o sgrîns bach ar y cyfrifiadur o 'mlaen i, pawb yn bubbly ac yn cracio jôcs.

"Wedyn dweud, 'Drychwch bois mae gennai canser', a bron yn yr un foment pob un o'r sgrîns yn mynd yn ddu ac oedd hynny yn anodd."