Cloddio Dinas Dinlle yn 'flas o broses hanesyddol'

Mae gwaith yn cael ei wneud i ddarganfod mwy o ddirgelion y fryngaer yn Ninas Dinlle cyn iddi ddiflannu i'r môr.

Y pryder ydy y bydd erydu arfordirol yn cael effaith fawr ar y safle dros y degawdau nesaf.

Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd sy'n arwain y gwaith cloddio ar y fryngaer sy'n dyddio o'r oes haearn dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl.

Mae olion tŷ crwn ysblennydd wedi cael ei ddarganfod yma a hwn ydy un o'r tai crwn mwyaf i'w ddarganfod yng ngogledd orllewin Cymru.