Diffyg sylw iechyd i endometriosis yn 'rhwystredig'

Mae dynes o ardal Wrecsam sydd wedi bod yn byw gydag endometriosis ers ei bod hi yn ei harddegau cynnar wedi dweud bod angen gwell dealltwriaeth gan feddygon am y cyflwr.

Bellach mae gan Anna Cooper, 27, endometriosis cyfnod 4, ac yn aros am ei 14eg llawdriniaeth - y tro hwn, hysterectomi i dynnu ei chroth.

Mae'r cyflwr yn un ble mae meinwe tebyg i leinin y groth yn dechrau tyfu mewn mannau eraill, gan effeithio ar organau fel y coluddyn.

Yn ôl Anna, mae'r arfer o ddiystyru poenau o'r math yr oedd hi'n ei gael fel rhai 'normal' yn ymwneud â'r mislif, yn golygu bod rhai menywod ddim wedyn yn cael eu cymryd o ddifrif pan mae'n dod at broblemau iechyd mwy difrifol.