Morwenna: Yr athrawes Gymraeg ar-lein i bobl yn China

Ddwy flynedd yn ôl fe symudodd YuQi Tang o Shanghai yn China i fyw yng Nghymru gyda'i gŵr, Scott, a chlywed y Gymraeg am y tro cyntaf.

Ers hynny mae hi wedi bod yn dysgu'r iaith, drwy Duolingo ac yna ar gwrs Dysgu Cymraeg Gwent.

Ond ar ôl sylwi mai prin oedd yr adnoddau i eraill o'i chefndir hi oedd eisiau dysgu'r iaith, fe aeth ati i sefydlu ei sianel ei hun ar wefan Bilibili.

Mae hi nawr yn dysgu Cymraeg i gynulleidfa newydd o Tsieiniaid, ac mae ganddi dros 200 o ddilynwyr ar y wefan.

"Yn ogystal â dysgu'r iaith iddyn nhw, dwi hefyd yn eu haddysgu am y diwylliant a phethau sy'n unigryw i Gymru," meddai YuQi, sydd hefyd yn defnyddio'r enw Cymreig, Morwenna.

"Pethau fel gwneud pice ar y maen neu'r Eisteddfod!"