Cartrefi gofal yn 'nerfus' iawn dros yswiriant

Mae rhai cartrefi gofal yn pryderu y bydd rhaid iddyn nhw gau oherwydd diffyg yswiriant i amddiffyn darparwyr rhag sgil effeithiau Covid-19.

Mae rhai cwmnïau yswiriant wedi cynyddu prisiau bron i deirgwaith yn fwy dros gyfnod y pandemig - ac mae nifer o gartrefi gofal yn methu fforddio polisi newydd.

Oherwydd hyn, mae sawl cartref gofal yn parhau i ddilyn cyfyngiadau llym wrth i reolwyr geisio osgoi unrhyw risg di-angen, er bod rheolau wedi llacio.

Mae rhai yn y sector hefyd wedi beirniadu Llywodraeth y DU am ddarparu cynllun yswiriant i ddigwyddiadau byw, ond heb gynnig cymorth tebyg i gartrefi gofal.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y broblem yn effeithio'r DU cyfan, a'i bod yn cydweithio â llywodraethau eraill y DU i ganfod datrysiad.

Mae Llywodraeth y DU wedi cael cais am sylw.