Meddygfeydd Ceredigion i ailgyflwyno mesurau Covid

Er bod cyfradd achosion coronafeirws yn gostwng ar gyfartaledd dros Gymru, mae 'na bryder mewn sawl ardal wrth i rai gwasanaethau orfod addasu.

Cafodd 10 o farwolaethau yn rhagor yn gysylltiedig â Covid-19 eu cofnodi yn y ffigyrau diweddaraf, a 2,298 o achosion newydd.

Siroedd Caerfyrddin a Chastell-nedd Port Talbot sydd â'r cyfraddau uchaf i bob 100,000 o'r boblogaeth, ond mae Cyngor Ceredigion yn rhybuddio am gynnydd sylweddol mewn achosion.

O Lanbedr Pont Steffan yn y sir y daw adroddiad Catrin Haf Jones.