Chwe phwynt 'positif' ond angen mwy o goliau ar Gymru

Mae Carrie Jones wedi dweud bod rhaid i Gymru sgorio mwy o goliau os ydy'r tîm am gyrraedd y Cwpan y Byd Merched 2023.

Daeth y chwaraewr canol cae ymlaen fel eilydd yn ystod buddugoliaeth Cymru yn erbyn Estonia nos Fawrth.

Roedd tîm Gemma Grainger yn wastraffus o flaen y gôl ond fe wnaethon nhw ennill 1-0 diolch i gôl gynnar Tash Harding.

Mae'r tîm wedi gwneud dechrau addawol i'r ymgyrch i gyrraedd y twrnament, ac maent yn ail yn eu grŵp rhagbrofol ar ôl ennill eu dwy gêm gyntaf.

Mae'r ymgyrch y merched i gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf yn parhau fis nesaf gyda gemau yn erbyn Estonia a Slofenia.