'Dim seibiant' i'r nyrsys wrth i'r pwysau gynyddu

Gyda bron hanner y cleifion yn yr unedau gofal dwys yng ngorllewin Cymru yn cael triniaeth am Covid-19, mae staff wedi rhybuddio bod y pwysau arnyn nhw cynddrwg os nad gwaeth nag ar unrhyw adeg ers dechrau'r pandemig.

Un rheswm pam y mae'r sefyllfa'n gwaethygu yw'r ffaith bod mwy o gleifion erbyn hyn yn dod i'r ysbyty'n ddifrifol wael gyda chyflyrau iechyd eraill.

Ond mae yna bryder hefyd bod staff profiadol wedi llwyr ymlâdd ers dechrau'r pandemig ac yn penderfynu cefnu ar y proffesiwn gan adael bylchau yn y rotas.

Dywedodd Tammy Bowen, prif nyrs uned gofal dwys Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, ei bod yn teimlo "fel bod dim respite o gwbl 'da ni".