'Mae'r plant wedi poeni mwy ers dechra'r tymor'

Mae arbenigwr plant wedi galw am roi'r gorau ar brofi plant sydd heb symptomau coronafeirws, gan ddadlau y gallai parhau i'w cynnal achosi "mwy o ddrwg nag o les" i'w hiechyd meddwl.

Daw'r rhybudd gan Dr David Tuthill - paediatregydd yn Ysbyty Plant Cymru a swyddog Cymru ar gyfer Coleg Brenhinol y Paediatregwyr.

Mae undebau addysg yn dweud bod ysgolion yn "ei chael yn anodd" ymdopi â'r broses olrhain cysylltiadau, ac oni bai bod "rhywun yn camu i mewn ac yn mynd i'r afael â'r broblem, bydd tarfu pellach i addysg".

Dywed Llywodraeth Cymru bod y sefyllfa'n cael ei monitro'n ofalus.

Mae Mererid Mair yn fam i ddau o blant oedran uwchradd yng Nghaernarfon. Dywedodd bod ei phlant yn "poeni mwy" yn yr wythnosau diwethaf.