Ymateb disgyblion i raddau arholiadau 2022

Gallai disgyblion wynebu graddau is yn 2022 wrth i'r corff sy'n gyfrifol am arholiadau yng Nghymru ddatgan eu bwriad i ddilyn Lloegr.

Mae Llywodraeth y DU eisiau dirwyn lefelau gradd anarferol o chwyddedig yn ôl i lefelau cyn-Covid dros ddwy flynedd.

Dywedodd Cymwysterau Cymru eu bod am weld "pwynt hanner ffordd" rhwng canlyniadau 2019 a 2022 y flwyddyn nesaf.

Y cynllun yw y bydd y canlyniadau erbyn 2023 yn ôl yn unol â chanlyniadau'r blynyddoedd cyn y pandemig.

Dyma ymateb dau o ddisgyblion blwyddyn 12 yn Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst i'r newyddion.