'Mae mwy o bwyslais ar i ni fynd ac ennill nawr'

Mae Joe Allen ac Aaron Ramsey yn dweud eu bod yn "edrych ymlaen" a "methu aros" am gêm dyngedfennol Cymru yn erbyn y Weriniaeth Tsiec.

Mae'r Sieciaid yn uwch na Chymru yn y grŵp, ac fe fyddai sicrhau canlyniad yn Prague yn allweddol i'r ymgyrch i gyrraedd y Cwpan y Byd yn 2022.

Bu Allen yn rhannu ei argraffiadau am absenoldeb Gareth Bale a phresenoldeb Sorba Thomas, sydd yn y garfan am y tro cyntaf.

Fe fydd Ramsey yn chwarae ei gêm gyntaf i Gymru ers yr Euros gan gymryd y cyfrifoldeb "sbesial" o arwain y tîm fel capten yn absenoldeb Bale.