'Rhowch cwpl o wythnosau i ni dreialu'r pàs Covid'

Mae rheolwr un o glybiau nos amlycaf Cymru yn dweud bod yna ddadl dros dreialu'r cynllun pás Covid sy'n dod i rym mewn ychydig ddyddiau, gan fod cyn lleied o amser i baratoi i'w weithredu.

O ddydd Llun 11 Hydref ymlaen bydd angen i bobl gael pàs sy'n dangos os ydyn nhw wedi'u brechu'n llawn neu wedi cael prawf negyddol diweddar i gael mynediad i ddigwyddiadau mawr a chlybiau nos.

Dywed Llywodraeth Cymru bod angen cyflwyno'r rheolau newydd fel bod llefydd yn gallu aros ar agor yn ystod misoedd y gaeaf.

Ond mae Guto Brychan, sy'n rhedeg Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd, yn dweud bod yna ddadl dros oedi fymryn, ac addysgu'r cyhoedd ynghylch y drefn newydd.