Pasys Covid: 'Problematig' neu 'syniad eithriadol o dda'?

O ddydd Llun ymlaen bydd yn rhaid dangos pàs Covid er mwyn cael mynediad i ddigwyddiadau mawr neu glybiau yng Nghymru.

Fe bleidleisiodd Llywodraeth Cymru'r wythnos ddiwethaf i gyflwyno'r mesur newydd er mwyn ceisio lleihau ymlediad Covid-19.

Tra bod 'na groeso gofalus gan rai sectorau mae perchenogion clybiau nos yn dweud eu bod nhw'n teimlo fod y maes yn cael ei dargedu.

Bu myfyrwyr ac aelodau o'r sector yn rhannu eu barn ar y pasys gyda BBC Cymru.