Covid: 'Y gwaethaf drosodd' i Gastell-nedd Port Talbot
Mae 'na alw ar sêr a chlybiau chwaraeon Cymru i wneud mwy i gefnogi'r ymgyrch i gael brechlyn Covid.
Daw wedi i gyfarwyddwr iechyd cyhoeddus Bwrdd Iechyd Bae Abertawe ddweud nad ydy holl glybiau chwaraeon yr ardal wedi cefnogi ymgyrch i annog pobl i gael eu brechu.
Tan yn ddiweddar, ardal Castell-nedd Port Talbot oedd â'r gyfradd uchaf o achosion Covid ar draws y Deyrnas Gyfunol.
Fe wnaeth BBC Cymru ymweld â chlwb bocsio y Bulldogs ym Mhort Talbot i glywed barn y bobl ifanc yno am y pandemig a'r cynllun brechu.