Beth yw agoriad swyddogol y Senedd?

Fe fydd y Frenhines yn ymweld â Bae Caerdydd ddydd Iau ar gyfer agoriad swyddogol y Senedd.

Dyma'r tro cyntaf iddi ddod i Gymru ers 2016 ac fe fydd yn gwneud araith yn ystod y seremoni i nodi dechreuad chweched sesiwn y Senedd.

Fel arfer mae'r agoriad yn digwydd yn fuan wedi'r etholiad, ond cafodd y seremoni ei gohirio eleni o achos Covid.

Mae pobl o bob rhan o Gymru wedi'u gwahodd i'r digwyddiad, sef y tro cyntaf i'r Senedd ddechrau sesiwn ers newid enw'r sefydliad o'r Cynulliad.