Peiriannau osôn yn 'medru bod yn niweidiol i bobl'

Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu peidio bwrw ymlaen â'r cynlluniau i brynu peiriannau osôn i ddiheintio ystafelloedd dosbarth.

Mae adolygiad wedi canfod bod y peiriannau yn gallu bod yn niweidiol iawn i blant.

Bydd y £3.31m a glustnodwyd ar gyfer y dechnoleg nawr yn cael ei wario ar 30,000 o fesuryddion carbon deuocsid a fydd yn cael eu dosbarthu i ysgolion a cholegau yr wythnos hon.

Un sydd wedi croesawu'r penderfyniad i gefnu ar y peiriannau ydy'r meddyg teulu o Nefyn, Dr Eilir Hughes, ddywedodd wrth Dros Frecwast eu bod yn "medru bod yn niweidiol i bobl, i iechyd pobl a hefyd i'r amgylchedd".