'Roedd David Amess yn un o fonheddwyr San Steffan'

Gydol y dydd mae gwleidyddion o bob plaid wedi bod yn rhoi teyrngedau i David Amess, AS Southend West wedi iddo gael ei drywanu tra'n cwrdd ag etholwyr mewn eglwys yn Leigh-on-Sea.

"Roedd yn un o fonheddwyr San Steffan," medd Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd.

Dywedodd hefyd bod digwyddiad "ffiaidd ac erchyll fel hyn" yn gorfodi ASau i ymbellhau a bod hynny yn "codi ofn" arni.