'Dyw peidio lleihau allyriadau ddim yn opsiwn'
Mae dadansoddiad gan BBC Cymru o ddata allyriadau swyddogol o 2019 yn dangos bod diwydiannau trwm Cymru wedi pwmpio cyfwerth â mwy na 23.5m tunnell o nwyon cynhesu byd-eang.
Daeth 93% o'r rheiny o ddim ond 25 safle.
Dim ond 4.73% o boblogaeth y DU sydd yn byw yng Nghymru, ond mae'r wlad yn cynhyrchu 18.8% o holl allyriadau carbon y DU o'r fath ddiwydiannau.
Gall hyn olygu, medd economegydd blaenllaw, bod Cymru'n wynebu mwy o her na gwledydd eraill y DU wrth geisio torri nwyon tŷ gwydr gan fod economi'r wlad yn fwy dibynnol ar ddiwydiannau carbon-ddwys na Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae miloedd o swyddi Cymru yn dibynnu ar ddau o'r cwmnïau sy'n allyrru fwyaf - gwaith dur Tata ym Mhort Talbot, a gorsaf bŵer nwy RWE yn Sir Benfro.
Er addewidion cwmnïau i fynd i'r afael â'r sefyllfa, mae Cyfeillion y Ddaear Cymru'n dweud bod eu cynlluniau'n "ddegawdau yn rhy hwyr" i atal cynhesu byd-eang trychinebus.
Haf Elgar yw Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru.