Camdriniaeth ar-lein yn 'gas a chreulon'
Mae Cymdeithas Bêl Droed Cymru wedi lansio cynllun ar y cyd â Llywodraeth Cymru i geisio taclo casineb at fenywod ar-lein.
Daw'r cynllun ar ôl i chwaraewyr benywaidd yng Nghymru dderbyn camdriniaeth ar y we yn ystod y tymor 2020/21.
Dywedodd capten Clwb Pêl-droed Aberystwyth Kelly Thomas bod yr ymgyrch yn "bwerus iawn" gan alw'r casineb ar gyfryngau cymdeithasol yn "gas a chreulon."
"Dwi'n rhwystredig bod y bobl sy'n ysgrifennu'r pethau 'ma dim gorfod cymryd cyfrifoldeb dros beth maen nhw'n dweud," meddai.
Mae'r cynllun yn anelu i gynyddu gwybodaeth o'r effeithiau mae camdriniaeth ar-lein yn ei gael ar bobl.