Trais domestig: 'Mae 'na ffordd allan'
Mae elusen yn y gogledd sy'n helpu pobl mewn sefyllfaoedd o gam-drin domestig yn poeni am ddyfodol eu gwasanaethau.
Dros y pandemig mi gafodd DASU - Uned Diogelwch Trais Teuluol - gyllid ychwanegol o £300,000 gan Lywodraeth Cymru, sydd, medden nhw, wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol ym mywydau pobl.
Ond rŵan, maen nhw'n poeni am golli gwasanaethau hanfodol pan ddaw arian Covid-19 i ben y flwyddyn nesaf.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn y broses o benderfynu ar ei chynlluniau gwariant, ac y bydd y manylion yn cael eu cyhoeddi fis Rhagfyr.
Mae Catrin Lois o Sir Ddinbych wedi rhannu'r profiad o gam-drin domestig a'r help gan elusennau yn Sir Ddinbych gyda Newyddion S4C.