Miriam Sautin yn derbyn Medal Ddrama'r Urdd 2020/21
Mae'r pandemig wedi golygu nad oes seremonïau go iawn wedi eu cynnal i wobrwyo enillwyr prif wobrau ein heisteddfodau cenedlaethol yn 2020 na 2021.
Ond mae'r Urdd wedi penderfynu gwobrwyo'r bobl wnaeth gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd 2020 mewn cyfres o seremonïau arbennig, a'u ffilmio nhw.
Yr wythnos yma felly, fe fydd fideo o enillwyr y prif wobrau yn cael ei rhyddhau.
Mae'n ddydd Mercher, felly enillydd y Fedal Ddrama fydd yn derbyn anrhydedd.
Mirian Elin Sautin sydd wedi cipio'r wobr. Dyma hi'n derbyn y Fedal, ac mae'r fideo hefyd yn cynnwys detholiad o'i gwaith.