Cymorth i Farw: 'Consyrn teg' neu'r hawl i ddewis?
Fe fydd Tŷ'r Arglwyddi yn ystyried newid rheolau i helpu pobl gyda salwch terfynol i ddod a'u bywydau i ben.
O dan amodau'r mesur dim ond cleifion sydd a'r gallu meddyliol llawn ac sydd ddim yn debygol o fyw yn hirach na chwe mis fyddai'n gymwys i wneud cais i gael cymorth i farw.
Byddai hefyd rhaid i ddau feddyg annibynnol a barnwr o'r Uchel Lys ddyfarnu bod y claf wedi gwneud y penderfyniad o'i wirfodd.
Dywedodd Tom Marshall, a gollodd ei rieni ar ôl iddyn nhw ladd eu hunain oherwydd bod eu iechyd yn dirywio, dylai'r gyfraith gefnogi pobl sydd am wneud y penderfyniad i ddod a'u bywyd i ben.
Ond mae yna wrthwynebiad cryf i'r ddeddfwriaeth ac mae pob ymgais blaenorol i gyflwyno deddfau tebyg wedi methu.
Wrth drafod ar Dros Frecwast BBC Radio Cymru, dywedodd Yr Athro Gwynedd Parry o Brifysgol Abertawe bod yna "gonsyrn teg" ynglŷn â'r mesur.