Profiad diweddar adran frys ysbyty 'yn teimlo fel warzone'

Mae menyw wedi bod yn disgrifio'r profiad "dychrynllyd" gafodd hi a'i merch ar ymweliad diweddar i adran frys Ysbyty Tywysog Cymru ym Merthyr Tudful.

Dywedodd Lisabeth McLean ar raglen Newyddion S4C fod ei merch Delyth wedi gorfod aros saith awr i gael ei gweld, a bod cleifion eraill wedi gorfod siarad gyda meddygon a chymryd profion yn yr ystafell aros am ei bod hi mor brysur.

Yn ddiweddarach cafodd Delyth ei symud oddi ar ei gwely i wneud lle i rywun oedd yn "fwy sâl" - ond doedd hi dal ddim yn cael mynd adref gan fod angen monitro ei chyflwr.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg fod yn ddrwg ganddyn nhw glywed "bod Delyth Mclean a'i theulu yn teimlo ei fod yn is na'n safonau arferol".

Ychwanegodd y bwrdd iechyd fod eu holl staff "wedi cael eu hyfforddi i ddarparu'r lefelau uchel o ofal yr ydym yn eu disgwyl, yn union fel ein staff parhaol".

"Rydym yn sicrhau Delyth a'i theulu ein bod yn cymryd pob pryder o ddifrif ac yn eu hannog i gysylltu â'n tîm pryderon yn uniongyrchol fel y gallwn ystyried ar y mater hwn ymhellach," meddai llefarydd.