Mali Haf: Merched yn 'experts' ar guddio eu ADHD

Cafodd y cerddor Mali Haf ddiagnosis o ADHD pan oedd hi yn ei harddegau hwyr - ac mae'n dweud bod angen i bobl wybod mwy am sut mae'r cyflwr yn effeithio ar ferched hefyd.

Ym Mis Ymwybyddiaeth ADHD, dywedodd Mali ei bod hi'n bwysig deall nad yw'r cyflwr yn arwain at ymddygiad gor-actif yn unig, a bod pobl dal yn meddwl ei fod yn rhywbeth sy'n effeithio ar fechgyn gan amlaf.

"Fel lot o ferched ni'n cuddio fe, ni'n experts ar guddio fe," meddai. "Dyna pham mae diagnosis [yn aml] yn hwyr gyda merched.

"Y peth anoddaf yw pan chi heb gael diagnosis, chi jyst yn teimlo fel chi'n gadael pawb i lawr, a chi ddim yn gwybod pam."