Disgwyl y dorf fwyaf erioed i Gymru yn erbyn Estonia

Mae disgwyl i Gymru chwarae o flaen y dorf fwyaf erioed nos Fawrth ar ôl i dros 5,000 o docynnau gael eu gwerthu ar gyfer gêm y merched yng Nghaerdydd.

Estonia fydd y gwrthwynebwyr yn Stadiwm Dinas Caerdydd yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2023.

Ar hyn o bryd y record ydy 5,053, a ddaeth i weld Cymru'n herio Lloegr yn Rodney Parade yn 2018.

Dywedodd ymosodwr Cymru, Natasha Harding ei bod hi'n cofio'r dyddiau pan nad oedd unrhyw dorf yn gwylio gemau'r merched.

"Ni gyd yn gwerthfawrogi'r dorf a phob un o'r cefnogwyr sy'n dod allan i'n gwylio ni," meddai, gan ychwanegu ei bod yn credu y bydd yr anthem yn un "emosiynol".

Bydd Cymru'n gobeithio parhau gyda'u dechrau addawol i gyrraedd Cwpan y Byd 2023, sydd hyd yma wedi'u gweld yn trechu Kazakhstan ac Estonia, a chael gêm gyfartal yn Slofenia.

Bydd modd gwylio'r gêm rhwng Cymru ac Estonia yn fyw ar wefan BBC Cymru Fyw nos Fawrth, gyda'r gic gyntaf am 19:15.