ADHD: 'O'n i jest yn meddwl o'n i bach yn dwp'
Mae seicolegwyr yn rhybuddio fod bechgyn lawer iawn yn fwy tebygol na merched o gael diagnosis o Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD).
Yr awgrym yw bod degau o filoedd o fenywod sy'n oedolion bellach, sydd erioed wedi cael diagnosis.
Mae'r Gymdeithas ADHD yn galw am fwy o addysg a gwell dealltwriaeth o'r cyflwr.
Ni chafodd y gantores o Gaerdydd, Mali Mason-Smith, ddiagnosis o ADHD nes yr oedd hi'n 16 neu'n 17 oed, a dywedodd bod nifer o fenywod yn cael diagnosis yn hwyrach mewn bywyd.
Dywedodd Mali wrth raglen Dros Frecwast fore Mawrth ei bod "jest yn meddwl o'n i bach yn dwp yn tyfu lan" cyn iddi gael y diagnosis, gan ychwanegu y byddai wedi bod o gymorth iddi i gael gwybod yn gynt.
Ond dywedodd hefyd ei bod yn lwcus o gael diagnosis cyn i'r cyflwr "droi yn rhywbeth lot gwaeth".