Sbeicio: 'Ni jyst methu mwynhau noson allan rhagor'

Cafodd protest ei chynnal tu allan i glwb nos yn Aberystwyth nos Fawrth fel rhan o gyfres o brotestiadau gwrth-sbeicio ar hyd y DU.

Fe gafodd protestiadau 'Girls Night In' eu trefnu yn dilyn nifer o achosion diweddar o sbeicio, gan gynnwys honiadau o sbeicio drwy nodwydd.

Gyda phryderon fod sbeicio ar gynnydd, fe fydd pobl yn boicotio clybiau nos a bariau'r wythnos hon.

Yn ôl y fyfyrwraig Cerys Davage mae sbeicio yn destun gofid iddi hi a'i ffrindiau: "'Dyn ni jyst methu mwynhau noson allan rhagor. 'Dyn ni'n paranoid iawn."