Perchennog Wrecsam, Rob McElhenney yn ymarfer ei Gymraeg
Rhag ofn nad oeddech chi'n gwybod yn barod, ond mae dau o sêr Hollywood bellach yn berchen ar Glwb Pêl-droed Wrecsam.
Roedd yr actorion Ryan Reynolds a Rob McElhenney, wedi teithio i Maidenhead i weld y clwb yn chwarae'n fyw am y tro cyntaf nos Fawrth.
Daeth cadarnhad ym mis Chwefror eleni fod y ddau wedi cwblhau eu pryniant o'r clwb.
Mae'r ddau wedi buddsoddi £2m yn Wrecsam, sy'n chwarae yng Nghynghrair Cenedlaethol Lloegr.
Ddydd Iau, bu'r ddau yn siarad â'r wasg yn y Cae Ras, gan sôn am eu breuddwydion o fynd â'r clwb o'r bumed haen i'r Uwch Gynghrair.
Dywedodd Reynolds, seren Deadpool: "Rydyn ni wedi synnu pa mor emosiynol y mae fy ffrindiau a fy nheulu wedi buddsoddi yn hyn. Mae'n rhywbeth hynod heintus.
"Byddem yn dweud celwydd pe na bai'r freuddwyd ydy'r Uwch Gynghrair. Rydyn ni eisiau mynd yn ôl i'r Gynghrair Bêl-droed a pharhau ein ffordd i fyny."
Mae Wrecsam, gyda'r rheolwr newydd Phil Parkinson wrth y llyw, wedi gwneud dechrau cyffredin i'r tymor yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn yr haf.
Mae'r Dreigiau yn 11eg yn y Gynghrair Genedlaethol ar ôl dim ond pedair buddugoliaeth o'u 11 gêm gyntaf.
Daeth hi i'r amlwg hefyd fod McElhenney - seren y gyfres gomedi It's Always Sunny In Philadelphia - wedi bod yn ymarfer tipyn ar ei Gymraeg...