Pobl Blaenau Ffestiniog yn gweithredu dros newid hinsawdd

Gyda sylw'r byd ar gynhadledd newid hinsawdd COP26, ry'n ni eisoes wedi clywed am y pwysau fydd ar arweinwyr rhyngwladol i wneud penderfyniadau.

Fe allai'r penderfyniadau hyn fod yn allweddol o ran yr her i arafu neu atal effeithiau newid hinsawdd.

Ond ydy'r frwydr weithiau yn gallu cael ei gweld fel problem mor gymhleth, nad oes modd i unigolion wneud gwahaniaeth?

Mae Cymru Fyw wedi bod yn trafod gyda rai o bobl Blaenau Ffestiniog am eu hymdrechion i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.