Rhybudd wedi ymddygiad gwrthgymdeithasol Cricieth

Mae'r heddlu wedi rhoi rhybudd i ysgolion yn sgil honiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn parti ar un o draethau Gwynedd y penwythnos diwethaf.

Dywed Tîm Plismona'r Gymdogaeth eu bod wedi eu galw i "barti mawr ar lan y môr" Cricieth gyda hyd at 200 o bobl ifanc.

Daeth i'r amlwg bod plant mor ifanc â 12 oed yn yfed alcohol yno.

Mae BBC Cymru wedi gweld llythyr yr heddlu at ysgolion lleol yn rhybuddio bod "parti arall wedi ei drefnu ar gyfer nos Wener yma".

Cafodd y fideo yma ei rannu ar wefannau cymdeithasol a'i roi i BBC Cymru, ond nid oes modd cadarnhau pryd y cafodd ei recordio.