'Mae angen mwy o drafod wedi cytundeb COP26'
Wedi pythefnos o drafodaethau yng nghynhadledd COP26 yn Glasgow, daeth dros 200 o wledydd i gytundeb yn hwyr nos Sadwrn ar y ffordd ymlaen i geisio mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
Mae'r cytundeb yn nodi, am y tro cyntaf, bod llosgi glo yn achos sylfaenol cynhesu byd-eang, ac mae disgwyl i'r holl wledydd gwrdd y flwyddyn nesaf i gyflwyno cynlluniau mwy cadarn.
Bydd cynnydd sylweddol hefyd yn yr arian ar gyfer helpu'r gwledydd tlotaf i addasu yn sgil effeithiau cynhesu byd-eang, gan mai nhw sy'n dioddef waethaf.
Mae mudiadau amgylcheddol yn dweud nad yw'r cytundeb terfynol yn mynd yn ddigon pell os am gyrraedd y nod o gyfyngu'r cynnydd yn nhymheredd y blaned i 1.5 gradd selsiws.
Wrth siarad ar fore Sul y Cofio ag yntau'n mynychu'r gwasanaeth ym Mharc Cathays, Caerdydd, dywedodd Prif Weinidog Cymru bod y cytundeb yn cynnig "gobaith".
Mae cynnydd wedi ei sicrhau mewn sawl maes pwysig, meddai, ond mae hefyd yn cydnabod na chafodd pob un o nodau'r gynhadledd eu cyflawni ac mae angen parhau i drafod, cynllunio a gweithredu.