Yr Eisteddfod i gynnal adolygiad o'r cystadlaethau
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi eu bod nhw'n chwilio am ymgynghorydd i arwain adolygiad o gystadlaethau'r ŵyl er mwyn "sicrhau eu bod yn parhau'n gyfredol" yn y dyfodol.
Mewn datganiad i'r wasg dywedodd trefnwyr yr ŵyl y bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gynnal ymchwiliad dros gyfnod o dri mis fydd yn cynnig argymhellion ar sut all y cystadlaethau newid - o ba gystadlaethau sy'n cael eu cynnig yn y lle cyntaf, i sut maen nhw'n cael eu rhaglenni.
Yn siarad ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru fore Mawrth dywedodd Elen Elis, trefnydd yr ŵyl, ei fod "yn fyd newydd bellach i ni gyd" wedi i'r Eisteddfod orfod cael eu gohirio ddwywaith yn ystod y pandemig.
Ychwanegodd fod Pwyllgor yr Eisteddfod yn teimlo bod angen cynnal adolygiad er mwyn "sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn cymryd diddordeb a bod [yr holl gystadlaethau'n] saff i'r dyfodol."