Rhoi genedigaeth gynnar, ddwywaith, yn 'dipyn o sioc'

Rhaid i famau sy'n geni plant yn gynnar gael mwy o gefnogaeth emosiynol, medd elusen.

Mae Bliss yn gweithredu ar ran teuluoedd babanod sy'n dod i'r byd cyn 37 wythnos yn y groth.

Dywed Ceri Roberts o'r Felinheli fod geni Seth, sydd bellach yn chwech oed, ac Aron sy'n bedair oed wedi bod yn brofiad arswydus.

Mae'n canmol y gofal gan y meddygon yn yr ysbyty a'r gofal wedi hynny gan nyrs arbenigol ac ymwelydd iechyd yn y cartref.

Ond mae'n ymwybodol o siarad â rhieni eraill nad yw'r gofal yr un peth ym mhob man, ac mae'n gresynu nad oes grwpiau i gefnogi rhieni babanod cynnar wedi iddyn nhw fynd adref.