Croesawu cynllun peilot 'hanfodol' ail gartrefi Dwyfor
Gallai cynghorau gael pwerau newydd i gyfyngu ar greu ail gartrefi a gosod llety gwyliau y flwyddyn nesaf.
Efallai y bydd angen caniatâd y cyngor lleol ar berchnogion tai i drosi eiddo o dan gynigion gan Lywodraeth Cymru.
Bydd ffyrdd eraill o helpu pobl ar yr ysgol eiddo yn cael eu rhoi ar brawf mewn rhan o Wynedd, gan ddechrau ym mis Ionawr.
Mae Dwyfor, sy'n cynnwys Pen Llŷn a'r ardal i'r gorllewin o Borthmadog, wedi'i ddewis fel ardal brawf.
Dywed ymgyrchwyr fod y pwerau "yn cynnig rhyw fath o obaith i drigolion sydd weithiau'n teimlo eu bod nhw mewn sefyllfa enbyd".