Coeden yn disgyn ar dafarn tra bod gweithiwr yn ysmygu

Cafodd un ddynes ddihangfa lwcus wedi i goeden ddisgyn ar fyrddau tu allan i dafarn tra'i bod hi wedi cymryd saib i ysmygu.

Fe gamodd Cheryl Pound tu allan am hoe wedi iddi gau tafarn The Star ym Mhen-y-bont, ac fe ddisgynnodd y goeden fodfeddi oddi wrthi.

Ar y pryd, roedd yr orsaf dywydd agosaf yn cofnodi gwyntoedd dros 50mya, a hynny wrth i Storm Arwen achosi difrod ar draws Cymru.