'Polisïau radical, trawsnewidiol' yng nghytundeb Llafur-Plaid

Mae Adam Price wedi dweud ei bod hi'n bryd nawr dechrau ar y gwaith o weithredu ar y "polisïau radical, trawsnewidiol" sydd yn rhan o gytundeb Llafur a Phlaid Cymru.

Bydd y ddwy blaid yn cydweithio yn y Senedd ar nifer o feysydd, a hynny wedi i aelodau Plaid Cymru gymeradwyo'r cynllun yn eu cynhadledd dros y penwythnos.