'Lwcus i fod yn fyw' yn dilyn anaf i'r ymennydd

Ar ôl bod yn ddifrifol wael mae'r focswraig Cara Owen yn ôl yn y gampfa yng Nghaernarfon yn ymarfer unwaith eto.

Newidiodd bywyd Cara yn llwyr ym mis Hydref 2019.

Roedd hi newydd ennill gornest focsio yng Nghaernarfon pan aeth hi'n sâl iawn a bu'n rhaid iddi gael triniaeth ar gyfer gwaedlif ar yr ymennydd mewn ysbyty arbenigol yn Stoke.

Bellach mae hi nôl yn y gampfa yn ymarfer ac yn hyfforddi eraill ond dyw hi ddim yn cael cymryd rhan mewn gornest focsio eto.