'Amhosib i feddygon teulu roi brechiadau atgyfnerthu'
Mae meddyg blaenllaw yn rhybuddio bod disgwyl i feddygon teulu helpu rhoi brechiadau atgyfnerthu yn "afresymol" yn sgil y pwysau "enfawr" sydd arnyn nhw eisoes.
Oherwydd yr amrywiolyn Omicron, bydd brechiad pellach yn cael ei gynnig i bob oedolyn dri mis wedi eu hail frechiad.
Gyda'r estyniad i'r rhaglen frechu, mae yna apêl i staff iechyd o fewn y GIG a thu hwnt helpu rhoi'r brechlyn.
Ond yn ôl cadeirydd pwyllgor meddygon teulu y Gymdeithas Feddygol Brydeinig (BMA) yng Nghymru, Dr Phil White, mae'n rhan fwyaf o'r meddygon teulu eisoes yn gweithio llawer o oriau'n fwy na'u cytundebau, ac fe allai rhagor o bwysau effeithio ar waith arferol meddygfeydd.
Daw'r rhybudd wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi manylion cytundebau newydd gyda meddygon teulu sy'n anelu at wneud hi'n haws i gleifion gael apwyntiadau wrth ffonio'r feddygfa.