Gweinidog yn awgrymu prawf cyflym cyn mynd i barti Nadolig

Mae'r Gweinidog Iechyd wedi awgrymu y dylai pobl gymryd prawf llif unffordd am Covid-19 cyn mynd i bartïon Nadolig eleni.

Wrth i achosion o amrywiolyn Omicron gynyddu yn y DU, dywedodd Eluned Morgan bod angen cymryd y sefyllfa o ddifrif.

Dywedodd hefyd y byddai'r llywodraeth yn ystyried ehangu defnydd o'r profion cyflym, unwaith bod cadarnhad eu bod yn gallu adnabod yr amrywiolyn newydd o'r feirws.