'Ffigyrau aros am ddeintydd yn syfrdanol ac yn bryder'

Fe allai gymryd blynyddoedd i restrau aros gwasanaethau deintyddol ddychwelyd i'r lefelau oedden nhw cyn y pandemig, yn ôl un deintydd.

Dim ond 3,500 o blant welodd ddeintydd ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn 2020-21.

Yn yr un cyfnod, cafodd 1.8m yn llai o driniaethau eu cynnal ar blant ac oedolion - cwymp o dros 75%.

Wrth siarad ar Dros Frecwast dywedodd Dr Sion Griffiths, llefarydd ar ran y Gymdeithas Ddeintyddol bod "y ffigyrau yn syfrdanol ac yn achos pryder" a bod cyfyngiadau'r pandemig wedi achosi oedi difrifol.