'Diffyg cefnogaeth' i rieni plant awtistig
Mae mam i blentyn awstistig wedi dweud fod diffyg cefnogaeth i rieni plant gyda'r cyflwr - a hynny cyn ac ar ôl iddyn nhw gael diagnosis.
Bu'n rhaid i Rebecca Davies aros 15 mis i gael diagnosis o awtistiaeth ar gyfer ei mab, Jack, ond hyd yn oed wedyn, prin yw'r gefnogaeth ffurfiol maen nhw wedi ei gael.
Yn ogystal â hynny, mae Rebecca yn dweud nad yw'n gallu manteisio'n iawn ar gynnig Llywodraeth Cymru o ofal plant am ddim, yn rhannol oherwydd nad yw meithrinfeydd arferol yn addas i Jack.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn cynnig grantiau i awdurdodau lleol i helpu plant ag anghenion ychwanegol, tra bod Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig "pecynnau arbenigol, wedi'u teilwra mewn ymateb i anghenion unigol".